Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Gardd y Boplysen
Cyfraith Contract. Dewiswyd y Boplysen fel symbol am nad yw'n hollti – yr
un amddiffyniad a'r gwahanu rhwng dwy garfan a geir mewn contract.
Dengys y cyfreithiau a ddyfynnir ar y pum panel y prif egwyddorion sy'n ymglwm â'r weithred o gontractio.
Y gwaith celf mwyaf trawiadol yn y gerddi yw'r Cloc Haul.
Ar wyneb y cloc mae pedwar disg crwn yn darlunio'r gweithgareddau y
dychmygir i Hywel eu cyflawni ar wahanol adegau o'r dydd – gweddïo yn y
bore, gweithio fel ymgynghorwr ganol dydd, hela yn y prynhawn a gwledda yn
yr hwyr. Mae'r ddau ddisg arall yn darlunio Hywel fel delwedd a adlewyrchir
gan symbol gwrywaidd yr haul ac hefyd Ianws deuben.
Ceir enghraifft dda o'r egwyddor tu ôl i bob rhannu yn yr un am y ddau
bysgotwr. Os cytunai'r ddau i rannu'r hyn a ddalient ond yn dal un yn unig,
yna roedd un ohonynt i rannu a'r llall i ddewis yn gyntaf pa hanner a
ddymuna ei gael.