Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Hurio Canolfan Hywel Dda
Ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro mae'r Ganolfan yn fan
delfrydol i gyfarfodydd a dyddiau hyfforddi i fusnesau bach. Lle
unigryw, hanesyddol ond hefyd yn adeilad modern gan gynnwys band lydan WI
IF.
Mae'r adeilad wedi ennill Gwobr Ddylunio Tywysog Cymru a Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig. Yn noson wobrwyo Grantiau Cymunedol Sir Gaerfyrddin 2005 enillodd yr estyniad newydd y "Prosiect Twristiaeth Gorau"o fewn y Sir.
Hawdd cyrraedd y Ganolfan o'r brif ffordd neu'r tren. Mae gorsaf Hendygwyn ar Dafar y brif lein i Lundain ac Abergwaun/Iwerddon
Gallwn gynnig pecyn sy'n addas ar gyfer eich anghenion.
Cyfleusterau
- Uwchdaflunydd
- Sgrin
- Flip Chart
- Taflunydd
- Band eang di-wifr
- Cadeiriau
- Bwrdd Gwyn
- Llungopiwr
- Stondunau
- Dwy Ystafell
Dwy ystafell-Neuadd 40 yn eistedd, eistedd o amgylch y bwrdd - 15 o bobl
Stafell newydd – eistedd o amgylch y bwrdd – 10 o bobl.
Cyfleusterau i'r anabl - Parcio, cyfleusterau toiled newydd.
Parcio - Parcio preifat y ganolfan (8 modur)
Mae'r ganolfan hefyd yn agos iawn i faes parcio cyhoeddus.