Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Y Ganolfan Wybodaeth
Mae'r adeilad hwn yn estyniad pellach o symboliaeth y gerddi ac fe'i cynlluniwyd gan Peter Lord a'r pensaer Dafydd Thomas, ar batrwm triphlyg tŷ Celtaidd. Lluniodd y pensaer neuadd urddasol gyda thri phâr o fframau pren portal sy'n adleisio nenfforch adeilad yr oesoedd canol. Mae yna sgrïn wydr sy'n gwahanu'r arcêd a rhan fewnol yr adeilad gyda ‘Rhagymadrodd' y llyfrau Cyfraith a lluniau o Peniarth 28 wedi'u ysgythru arni.
Ceir yma arddangosfa hanes barhaol gan yr haneswyr Malcolm a Cyril Jones, yn ogystal â ffacsimili o lawysgrif o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, sef y ‘Llawysgrif Boston’. Mae’r llawysgrif yma ond yn ddiweddar wedi dychwelyd i Gymru wedi cyfnod o ddwy ganrif yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn ddiolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am eu haelioni wrth cyflwyno’r ffacsimili yma i’r Ganolfan.
Mae yna hefyd deilsen canoloesol i’w weld yn y ganolfan sydd yn deillio o Abaty Hendygwyn, Abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1151. Mae’r deilsen yn arddangos Oen Duw yn chwifio baner, a nifer o symbylau eraill. Ar ddiwrnod braf gall ymwelwyr casglu copi o’r pamffled ‘Heddwch a Threfn’ sydd yn cynnwys manylion ar daith gerdded o’r Ganolfan i adfeilion yr Abaty hynafol.
Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnwys gweithiau celf disgrifiadol o wydr, bric, cerameg a dur. Gwnaed y gwaith haearn gan David Peterson, San Clêr a'r placiau ceramig uwchben y brif fynedfa gan Maggie Humphreys Rhuthin.
Yn ogystal mae yna siop, arddangosfa lyfrau, system sain-weladwy, arddangosfeydd celf gan artistiaid sefydlog a newydd, darlithoedd a gwaith ymchwil. Mae’r Ganolfan hefyd ar gael ar gyfer dosbarthiadau a chymdeithasau lleol
Crefftwaith ar ei orau:
Tair nenfforch bren sy'n cynnal y tô.
Manylion ar y dolenni yn y drysau gwydr.
Gwaith caligraffi ar y placiau enamel prydferth a osodwyd ar y placiau llechi.
Placiau cerameg yn ein hatgoffa o'r safle a oedd yn farchnad wartheg.
Gwaith haearn – iet a'r panel yng Ngardd yr Helygen
Gwaith ysgythru ar y gwydr.
Mae'r Ganolfan yn fan delfrydol i gyfarfodydd ac arddangosfeydd, yn ogystal ag ymweliadau ysgol a choleg. Mae hefyd yn cael ei gydnabod fel canolfan i fusnesau bach i gynnal cynadleddau a dyddiau hyfforddi, gyda Bandlydan WiFi ar gael.
Gwobr Ddylunio Tywysog Cymru
Gwobr Yr Ymddiriedolaeth Ddinesig
