Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Arddangosfa Peniarth 28
Llawysgrif Peniarth 28 yw un o’r llawysgrifau Cymreig hynaf. Fersiwn Lladin o Gyfraith Hywel Dda yw, sy’n dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg. Gan fod y testun yn Lladin, awgryma Mr. Daniel Huws, arbenigwr ar lyfrau Cymraeg cynnar, fod y fersiwn gwreiddiol wedi ei fwriadu ar gyfer eglwyswr o bwys yn hytrach na chyfreithiwr. Dywed “fod tystiolaeth y testun yn awgrymu mai rhywle yn yr hen Ddyfed yr ysgrifennwyd hi”. Awgryma rhai ysgolheigion mai ym mynachlog yr Hendygwyn y gwnaed y cyfieithiad Lladin.
Mae Peniarth 28 yn wahanol i weddill y llawysgrifau cyfreithiol Cymreig o’r canol oesoedd gan ei bod yn cynnwys darluniau unigryw. Mae’r darluniau’n disgyn i ddau gategori. Yn gyntaf, y rhai sy’n portreadu’r brenin ynghyd â rhai o bedwar ar hugain o swyddogion y llys a ffigurau eraill ac yn ail, y gyfres o ddarluniau o adar, anifeiliaid ac eitemau o werth cyfreithiol. Dyma sy’n dynodi dechrau’r gwahanol adrannau o Gyfraith Hywel.
Dywed Daniel Huws fod “diddordeb arbennig yn perthyn i’r darluniau hyn gan nad oes gennym lawysgrif arall yn cynnwys ymgais gan Gymro o’r drydydd ganrif ar ddeg i bortreadu ei gyfoeswyr.” Ar wahan i lun y brenin ar ei orsedd mae gweddill y lluniau yn syml iawn. Mae’n bosibl mai’r sawl a luniodd y llawysgrifau oedd hefyd yn gyfrifol am wneud y lluniau gan fod inc tebyg wedi ei ddefnyddio i ysgrifennu’r llawysgrif a’r lluniau.
Ynad Llys
Ynad Llys (Brawdwr) yn ei gadair â llyfr cyfraith yn ei law. Yr oedd gair hwn yn derfynol am bob ymryson yn y llys.
Y Pengwastrod
Y Pengwastrod fyddai'n edrych ar ôl ceffylau'r Brenin.
Y Gof
Y Gof wrth ei waith. ‘Roedd parch mawr i'r gof oherwydd ei fod yn grefftwr medrus.
Y Rhingyll
Y Rhingyll yn dal y wayw oedd yn perthyn i'w swydd. ‘Roedd yn gyfrifol am gadw trefn a chario gofynion yr awdurdod.
Y Distain
Y Distain, sef prif ystiward y llys gyda disgl yn ei law.
Yr Hebogydd
Yr Hebogydd yn dal gwalch neu hebog, a chlwyd. Yr oedd hela gyda hebogiaid yn hoff orchwyl gan y tywysogion.