Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Gardd yr Onnen
Cyfreithiau Eiddo sydd yma a dewiswyd yr onnen am fod offer yn cael eu
gwneud o'i phren oherwydd ei gryfder ac uniondeb y graen. Dymuniad y
cynllunydd oedd i dawelwch a thangnefedd yr ardd hon i alluogi'r ymwelydd i
fyfyrio ar yr hyn oedd wedi ei ddysgu yn ystod ei ymweliad.


Roedd i bob anifail ei werth a rhaid oedd talu iawn os methai gyrraedd y
safon. O'r tri phlac arall mae un yn enwi tri pheth a allai person eu cadw
heb fod yn atebol i neb os deuai o hyd iddynt ar yr heol (pedol ceffyl,
ceiniog a nodwydd) a'r ddau arall yn cyfeirio at hawliau ynglyn â chymryd
pren o'r fforestydd.