Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Gardd y Fedwen
Mae'r tair bedwen yn cynrychioli cyfreithiau ‘Trosedd a Cham',- gyda'r
enghreifftiau yn pwysleisio'r tegwch a'r 'synnwyr cyffredin' sydd mor
nodweddiadol o Gyfraith Hywel.
Rhoddid pwyslais arbennig ar dalu 'iawn' i'r dioddefwr.
Mae mynediad i'r brif ardd drwy iet symbolaidd a gynlluniwyd gan Gideon Peterson
Mae geiriau'r gyfraith nesaf yn llefaru drostynt eu hunain:
"Tystiolaeth a ellir ar air ac ar weithred ac ni ellir ar feddwl"
Yr unig drosedd a ellir bod yn dyst iddi yw un a welir neu a chlywir - nid yw'r hyn mae rhywun yn ei feddwl yn cael ei dderbyn – rhaid bod yn bendant.

Mewn rhai achosion caniateid i'r troseddwr dalu yn ôl ei fodd.