Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Hanes Y Ganolfan
Cynlluniwyd y Gofeb gan yr artist Peter Lord o Aberystwyth, ac mae'n
cynnwys Gardd a Chanolfan Gwybodaeth
Wrth ddewis GARDD fel sylfaen i'w gynllun, bwriadai'r cynllunydd ddarparu amgylchfyd tawel a myfyriol ar gyfer archwilio "Cyfraith Hywel" – a thrwyddynt hwy y Gymdeithas Ganoloesol Gymreig.
Mae'r ardd yn cynnwys chwe gardd fechan, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli rhan arbennig o'r Gyfraith:
- Cymdeithas, Cenedl a Braint
- Trosedd a Cham
- Gwragedd
- Contract
- Eiddo
- Y Brenin a'r Llys
Mae gan bob gardd goeden arbennig sy'n adlewyrchu ystyr symbolaidd coed i bobloedd Celtaidd. Darluniwyd y cyfreithiau ar blaciau o lechi sydd wedi'u goliwio mewn enamel. Mae'r dyluniau'n cynnwys gwaith celf megis gwydr ysgythrog, cerameg, gwaith haearn ac enamelau.