Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Gardd yr Holl Goed
Cynrychiolir cyfreithiau cymdeithas gan sawl coeden wahanol –simbolau o'r
amrywiaeth sy'n gwneud cymdeithas.
Prif uned y gymdeithas oedd y genedl – sef y tylwyth – a byddent yn olrhain eu tras hyd o leiaf y nawfed ach. Byddai'r aelodau yn dibynnu ar gymorth y 'genedl' mewn achosion cyfreithiol, yn arbennig wrth dalu galanas.
Yn y plac uchaf gwelwn seremoni derbyn plentyn anghyfreithlon yn aelod
o'r ‘genedl'. Roedd gan fab anghyfreithlon yr un hawliau â'r meibion ereill
ond yw dad ei gydnabod fel ei blentyn. Cymerai'r pencenedl ‘ddwy
law y mab rhwng ei ddwy law yntau, a rhoddi cusan iddo, canys arwydd
carennydd i'w cusan'
Mae'r plac oddi tano yn enwi'r dair crefft na châi mab i daeog eu dysgu heb ganiatâd ei arglwydd, sef ysgolheictod, gofaniaeth a barddoniaeth.
Cawn ein hatgofio am gysylltiad y "Ty Gwyn ar Daf" â Chynhadledd Hywel
yn y gwaith lliw ar balmentydd yr ardd hon – ffigurau o'r eglwyswyr a
fyddai'n debyg o fod yn y gynhadledd -Archesgob Mynyw, .yr Abadau a'r
Prioriaid ac un diddorol arall yn dangos y prif ddosbarthiadau cymdeithasol