Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Facebook
Gardd yr Helygen
Mae'r ardd hon yn cynrychioli 'Cyfraith y Gwragedd', ac i adlewyrchu'r agwedd oleuedig tuag at fenywod, hi yw'r fwyaf o'r chwe gardd. Mae'r holl symbolau yn yr ardd yn fenywaidd - h.y. yr helygen, y pwll ar ffurf hanner lleuad, y lleuad newydd ar y tô a lliwiau glas a gwyn y blodau a'r placiau enamel. Caiff siap y pwll ei gwblhau gan hanner cylch o rosynnod.
Ceir syniad o'r hawliau a'r breintiau a roddwyd i fenywod wrth ddarllen y placiau.
"Rhydd yw gwraig i fyned ffordd y mynno, gan nad oes gathiwed arni namyn ei hamobr"
Tâl i arglwydd y wraig oedd yr amobr y tro cyntaf y byddai iddi briodi.
Yr agweddi oedd eiddo priodasol i'r wraig gan ei gŵr pan yn priodi. Pe byddai'r briodas yn dod i ben cyn saith mlynedd, byddai'r ferch yn cadw'r agweddi. Wedi saith mlynedd roedd rhaid rhannu'r eiddo yn gyfartal.