Stryd y Santes Fair
Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: ebost@hywel-dda.co.uk
Y Ganolfan Wybodaeth
Mae'r adeilad hwn yn estyniad pellach o symboliaeth y gerddi ac fe'i
cynlluniwyd gan Peter Lord a'r pensaer Dafydd Thomas, ar batrwm triphlyg tý
Celtaidd. Lluniodd y pensaer neuadd urddasol gyda thri phâr o fframau
pren portal sy'n adleisio nenfforch adeilad yr oesoedd canol.Sgrïn
wydr sy'n gwahanu'r arcêd a rhan fewnol yr adeilad gyda ‘Rhagymadrodd'
y llyfrau Cyfraith a lluniau o Peniarth 28 wedi'u ysgythru arni.
Ceir yma arddangosfa hanes barhaol gan yr haneswyr Malcolm a Cyril Jones,
yn ogystal â gweithiau celf disgrifiadol o wydr, bric, cerameg a dur. Gwnaed
y gwaith haearn gan David Peterson, San Clêr a'r placiau ceramig uwchben y
brif fynedfa gan Maggie Humphreys Rhuthin.
Crefftwaith ar ei orau:
Tair nenfforch bren sy'n cynnal y tô.
Manylion ar y dolenni yn y drysau gwydr.
Gwaith caligraffi ar y placiau enamel prydferth a osodwyd ar y placiau llechi.
Placiau cerameg yn ein hatgoffa o'r safle a oedd yn farchnad wartheg.
Gwaith haearn – iet a'r panel yng Ngardd yr Helygen
Gwaith ysgythru ar y gwydr.
Mae'r Ganolfan yn fan delfrydol i gyfarfodydd ac arddangosfeydd, yn ogystal ag ymweliadau ysgol a choleg. Mae hefyd yn cael ei gydnabod fel canolfan i fusnesau bach i gynnal cynadleddau a dyddiau hyfforddi, gyda Bandlydan WiFi ar gael.
Gwobr Ddylunio Tywysog Cymru
Gwobr Yr Ymddiriedolaeth Ddinesig
