Dolenni

Abaty Hendygwyn-ar-Daf

Mam abaty'r Sistersiaid yng Nghymru a sefydlwyd yn 1140.

Parc a Chastell Dinefwr

Llandeilo

Mae Ty'r Dre Newydd (Newton House) a Chastell Dinefwr yn llawn hanes, gyda llwybrau a golygfeydd arbennig dros ddyffryn Tywi.

Dinefwr oedd prif lys Hywel Dda ac oddi yma yr oedd yn rheoli rhan helaeth o Dde Orllewin Cymru sef y Deheubarth.

Rhodri Mawr, tadcu Hywel Dda a adeiladodd gastell Dinefwr. Ceir cyfeiriad at wartheg gwynion Dinefwr yng nghyfreithiau Hywel Dda.

(yn y ddegfed ganrif).

Gardd Fotaneg Genedlaethol

Llanarthne, ger Caerfyrddin

Ty Gwydr mawreddog, planhigion o bob cwr o'r byd, gerddi sydd wedi ennill gwobrau ac arddangosfeydd.

Gerddi Aberglasne

Llangathen

Aberglasne yw un o'r prosiectau adfywio gerddi mwyaf cyffrous yn y Sir. Mae'r ardd wedi'i thrawsnewid yn baradwys i bobl sy'n hoff o blanhigion.

Cartref Dylan Thomas

Talacharn

Cartref y bardd mawr Dylan Thomas. Dyma lle yr oedd Dylan Thomas yn byw am y bedair blynedd olaf o'i fywyd.

Siocled o waith llaw, Pembertons

Llanboidy, Hendygwyn-ar-Daf.

Dewch i weld y fferm siocled arbennig yma.

Amgueddfa Cyflymder Pentywyn

Cymerwch gam yn ôl i orffennol traethau Pentywyn.

Dewch i weld "Babs" y car enwog ar ei newydd wedd.

Canolfan Grefftau Gorllewin Cymru

Sancler, Caerfyrddin

Oriel fawr, stiwdios/gweithdai arlunwyr, a thy coffi/bwyty

poblogaidd

Canolfan Grefftau Glyn Coch

Pwlltrap ger Sancler

Crefftwaith o Gymru, gweithgareddau i blant, llwybrau drwy'r goedwig, ystafell de.

  • 01994 231867

Canolfan Bryn Myrddin

Abergwili, Caerfyrddin

Cartref Myrddin y Dewin

Canolfan dreftadaeth ddiddorol.

Dewch i gwrdd ag anifeiliaid fferm cyfeillgar.

Rheilffordd Ager Gwili

Bronwydd, Caerfyrddin.

Cewch fwynhau taith ar hen dren ager drwy Ddyffryn Gwili.

Lleoedd eraill i ymweld a hwy:

Dinbych y Pysgod

Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi

Traethau Sir Benfro a llwybrau yr arfordir

Parc adloniant Oakwood

Mae Canolfan Hywel Dda yn un o'r "Mannau Gwybodaeth"

(Alternative Information Outlets) i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r prosiect yma o dan raglen Echel 3 Datblygu Hunaniaeth a Nodweddion Unigryw wedi ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Website Design & Hosting by W3 Web Designs Limited