Cartref Amserau a Phrisiau Ymweliadau Addysgiadol Hurio Ystafell Siop Dolenni Defnyddiol  Cysylltwch a ni
Hanes y Ganolfan  

 

 

 

1. Gardd yr holl goed
2. Gardd y Fedwen
3. Gardd yr Helygen
4. Gardd y Boplysen
5. Gardd y Dderwen
6. Gardd yr Onnen
Y Ganolfan Wybodaeth
 
 
 

English Website
Gwefan Saesneg

      

 

  Y Ganolfan Wybodaeth

Mae’r adeilad hwn yn estyniad pellach o symboliaeth y gerddi ac fe’i cynlluniwyd gan Peter Lord a’r pensaer Dafydd Thomas, ar batrwm triphlyg ty Celtaidd.  Lluniodd y pensaer neuadd urddasol gyda thri phâr o fframau pren portal sy’n adleisio nenfforch adeilad yr oesoedd canol.  Sgrïn wydr sy’n gwahanu’r arcêd a rhan fewnol yr adeilad gyda  ‘Rhagymadrodd' y llyfrau Cyfraith a lluniau o Peniarth 28 wedi’u ysgythru arni.

Ceir yma arddangosfa hanes barhaol gan yr haneswyr Malcolm a Cyril Jones, yn ogystal â gweithiau celf disgrifiadol o wydr, bric, cerameg a dur. Gwnaed y gwaith haearn gan David Peterson, San Clêr a’r placiau ceramig uwchben y brif fynedfa gan Maggie Humphreys ,Rhuthin.

Crefftwaith ar ei orau:

Tair nenfforch bren sy’n cynnal y to.

Manylion ar y dolenni yn y drysau gwydr.

Gwaith caligraffi ar y placiau enamel prydferth a osodwyd ar y placiau llechi. 

Placiau cerameg yn ein hatgoffa o’r safle a oedd yn farchnad wartheg.

 Gwaith haearn – iet a’r panel yng Ngardd yr Helygen.

 Gwaith ysgythru ar y gwydr.

Gwobr Ddylunio Tywysog Cymru
Gwobr Yr Ymddiriedolaeth Ddinesig

Prince of Wales Design Award
Civic Trust Award

                             

  
 

 

 
 

 

Canolfan a Gardd Hywel Dda
Stryd y Santes Fair, Hendygwyn-ar-Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0PY
Ffôn: (01994) 240867
E-bost: