![]() ![]() ![]() |
| Cartref | Amserau a Phrisiau | Ymweliadau Addysgiadol | Hurio Ystafell | Siop | Dolenni Defnyddiol | Cysylltwch a ni |
|
Gardd yr Holl Goed |
||||||||||||||||||
|
Cynrychiolir cyfreithiau cymdeithas gan sawl coeden wahanol –simbolau o’r amrywiaeth sy’n gwneud cymdeithas. Prif uned y gymdeithas oedd y genedl – sef y tylwyth – a byddent yn olrhain eu tras hyd o leiaf y nawfed ach. Byddai’r aelodau yn dibynnu ar gymorth y ‘genedl’ mewn achosion cyfreithiol, yn arbennig wrth dalu galanas. Yn y plac uchaf gwelwn seremoni derbyn plentyn anghyfreithlon yn aelod o’r ‘genedl’. Roedd gan fab anghyfreithlon yr un hawliau a’r meibion ereill ond yw dad ei gydnabod fel ei blentyn. Cymerai’r pencenedl ‘ddwy law y mab rhwng ei ddwy law yntau, a rhoddi cusan iddo, canys arwydd carennydd yw cusan’ Nid oedd hawl gan daeog ddysgu i’w fab - ysgolheictod (urddau eglwysig), barddoni neu grefft gôf heb ganiatâd ei arglwydd. Cawn ein hatgofio am gysylltiad y “Ty Gwyn ar Daf” â Chynhadledd Hywel yn y gwaith lliw ar balmentydd yr ardd hon – ffigurau o’r eglwyswyr a fyddai’n debyg o fod yn y gynhadledd -Archesgob Mynyw, .yr Abadau a’r Prioriaid ac un diddorol arall yn dangos y prif ddosbarthiadau cymdeithasol. |
|
||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||
|
|
Canolfan a Gardd Hywel Dda |
||||||||||||||||||