![]() ![]() ![]() |
| Cartref | Amserau a Phrisiau | Ymweliadau Addysgiadol | Hurio Ystafell | Siop | Dolenni Defnyddiol | Cysylltwch a ni |
|
Dolenni |
|||||||||||||||
|
Abaty Hendygwyn-ar-Daf Mam abaty’r Sistersiaid yng Nghymru a sefydlwyd yn 1140. Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo Mae Ty’r Dre Newydd (Newton House) a Chastell Dinefwr yn llawn hanes, gyda llwybrau a golygfeydd arbennig dros ddyffryn Tywi. Dinefwr oedd prif lys Hywel Dda ac oddi yma yr oedd yn rheoli rhan helaeth o Dde Orllewin Cymru sef y Deheubarth. Rhodri Mawr, tadcu Hywel Dda a adeiladodd castell Dinefwr. Ceir cyfeiriad at wartheg gwynion Dinefwr yng nghyfreithiau Hywel Dda. (yn y ddegfed ganrif). 01558 823902 Gardd Fotaneg Genedlaethol Llanarthne, ger Caerfyrddin Ty Gwydr mawreddog, planhigion o bob cwr o’r byd, gerddi sydd wedi ennill gwobrau ac arddangosfeydd. 01558 667148/9 Gerddi Aberglasne, Llangathen Aberglasne yw un o’r prosiectau adfywio gerddi mwyaf cyffrous yn y Sir. Mae’r ardd wedi’i thrawsnewid yn baradwys i bobl sy’n hoff o blanhigion. 01558 668998 Cartref Dylan Thomas, Talacharn Cartref y bardd mawr Dylan Thomas. Dyma lle yr oedd Dylan Thomas yn byw am y bedair blynedd olaf o’i fywyd. 01994 427420 Siocled o waith llaw, Pembertons Llanboidy, Hendygwyn-ar-Daf. Dewch i weld y fferm siocled arbennig yma. 01994 448800 Amgueddfa Cyflymder Pentywyn Cymerwch gam yn ol i orffennol traethau Pentywyn. Dewch i weld “Babs” y car enwog ar ei newydd wedd. 01994 453488 Canolfan Grefftau Gorllewin Cymru Sancler, Caerfyrddin Oriel fawr, stiwdios/gweithdai arlunwyr, a thy coffi/bwyty poblogaidd 01994 231826 Canolfan Grefftau Glyn Coch Pwlltrap ger Sancler Crefftwaith o Gymru, gweithgareddau i blant, llwybrau drwy’r goedwig, ystafell de. 01994 231867 Canolfan Bryn Myrddin Abergwili, Caerfyrddin Cartref Myrddin y Dewin Canolfan dreftadaeth ddiddorol. Dewch i gwrdd ag anifeiliaid fferm cyfeillgar. 01267 237808 Rheilffordd Ager Gwili Bronwydd, Caerfyrddin. Cewch fwynhau taith ar hen dren ager drwy Ddyffryn Gwili. 01267 238213 Lleoedd eraill i ymweld a hwy: Dinbych y Pysgod Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi Traethau Sir Benfro a llwybrau yr arfordir Parc adloniant Oakwood www.visitcarmarthenshire.co.uk www.tourismpembrokeshire.co.uk Mae Canolfan Hywel Dda yn un o’r “Mannau Gwybodaeth” (Alternative Information Outlets) i Gyngor Sir Caerfyrddin.
|
|
|||||||||||||||
![]() |
||||||||||||||||
![]() |
||||||||||||||||
|
|
|
|||||||||||||||